Skip main navigation

Y Cefndir: Beth yw microbau?

Article explaining what microbes are, and providing basic information about bacteria, fungi, and viruses.
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: gwneud eich microbau eich hun, rasys burum, a hylendid resbiradol.

Microbau

Mae microbau, a elwir hefyd yn ficro-organebau, bygiau, neu germau, yn organebau byw mân sy’n rhy fach i chi eu gweld gyda’r llygad noeth.

  • Microbau yw’r term generig cyffredin i ddisgrifio firysau, bacteria neu ffyngau, p’un a ydyn nhw’n ddefnyddiol neu’n niweidiol.
  • Maen nhw i’w cael ymhobman bron ar y ddaear, ac maen nhw’n rhan bwysig o fywyd.
  • Maent i’w cael mewn nifer o wahanol siapiau a meintiau.
  • Y term derbyniol yn wyddonol i ddisgrifio microbau sy’n achosi i ni fynd yn sâl yw “pathogenaidd” neu “pathogen”. Mae’n bwysig nodi nad yw’r cyhoedd yn deall y term hwn yn dda. Mewn pleidlais gan y Gymdeithas Iechyd Cyhoeddus Frenhinol (RSPH) lle ymatebodd 2000 o bobl, dim ond 43% a ddywedodd bod pathogenau “fel arfer neu bob tro” yn niweidiol, a dywedodd 35% nad oedden nhw’n gwybod beth oedd ystyr y term.
  • Y gair cyffredin anwyddonol am ficrobau yw “germau”. Yn draddodiadol mae’r term hwn yn disgrifio microbau niweidiol, gyda delweddau a lluniau sy’n eu dangos nhw fel pethau bygythiol a hyll. Mewn blynyddoedd diweddar, mae wedi dod yn beth cyffredin i ddefnyddio’r term i ddisgrifio unrhyw fath o ficrob.
  • I osgoi camarwain plant, mae’n bwysig iawn eich bod chi’n dweud yn benodol a ydych chi’n siarad am germau niweidiol neu y rhai sydd ddim yn niweidiol. Mae erthyglau wedi ymddangos yn y cyfryngau am brofion yn dangos miloedd neu filiynau o “germau” yn y toiled neu ar arwynebau, ond dydyn nhw ddim yn dangos nad yw’r rhain bob amser yn niweidiol, a’u bod nhw’n fuddiol mewn rhai achosion. Ym mhleidlais RSPH, dim ond 36% o’r cyfranogwyr oedd yn meddwl bod germau weithiau’n dda ac weithiau’n ddwg, tra bo 58% yn meddwl eu bod nhw “fel arfer neu bob amser yn niweidiol”.
  • Yn ein cwrs ni, rydym yn defnyddio’r term “byg” i gyfeirio at unrhyw ficrob.
Oeddech chi’n gwybod? Mae’r term “microbiom dynol” yn ymwneud yn benodol â’r microbau sydd yn ein cyrff (croen, ceg, perfeddyn ac ati…). Mae triliynau o ficrobau yn ein cyrff!

Firysau

Firysau yw’r lleiaf o’r microbau a gallent fod yn niweidiol i bobl. Dydy firysau ddim yn gallu goroesi ar eu pennau eu hunain. Mae angen cell “letyol” arnyn nhw i oroesi ac atgynhyrchu. Unwaith maen nhw tu mewn i’r gell letyol, maen nhw’n lluosogi’n gyflym ac yn dinistrio’r gell yn y broses.

Close up image of Rhinovirus (the common cold) Un math o firws yw’r Rhinofirws, sef enw arall am firws annwyd cyffredin. Mae mwy na 250 o wahanol fathau o firysau annwyd! Cymerwyd y llun o ‘Giant Microbes’.

Ffyngau

Ffyngau yw’r mwyaf o’r microbau ac maen nhw’n organebau amlgellog. Mae rhai ffyngau’n ddefnyddiol ac mae rhai’n gallu bod yn niweidiol i bobl. Mae ffyngau’n cael eu bwyd naill ai drwy bydru deunydd organig marw neu drwy fyw fel parasitiaid ar letywr. Mae ffyngau’n gallu bod yn niweidiol drwy achosi haint neu drwy fod yn wenwynig i’w bwyta.

Un math o ffwng defnyddiol yw Penisiliwm sy’n cynhyrchu’r gwrthfiotig penisilin. Mae hefyd ffyngau y gallwch eu bwyta, fel Agaricws, sef yr hyn yr ydyn ni’n ei alw’n fadarch botwm gwyn.

Close up of Penicillium (fungus which produces penicillin) Un math o ffwng yw Penisiliwm sy’n cynhyrchu’r gwrthfiotig penisilin. Cymerwyd y llun o Lyfrgell Delweddau Iechyd Cyhoeddus CDC.

Bacteria

Mae bacteria yn llai na ffyngau ond yn fwy na firysau, gallent fod yn ddefnyddiol ac yn niweidiol i bobl. Gallwn eu rhannu nhw’n dri phrif grŵp yn ôl eu siapiau – cocci (peli), bacilli (rhodenni) a sbiralau. Gallwn rannu’r cocci yn dri grŵp hefyd yn ôl y ffordd mae’r cocci wedi eu trefnu: staphylococci (clystyrau), streptococci (cadwyni) a diplococci (parau). Gallwn ddefnyddio’r siapiau hyn i adnabod y math o haint sydd gan glaf.

Yn ystod eu twf arferol, mae rhai bacteria yn cynhyrchu tocsinau sy’n eithriadol o niweidiol i bobl ac yn achosi heintiau. Mae bacteria eraill yn hollol ddiddrwg i bobl ac mae rhai’n gallu bod yn hynod o ddefnyddiol i ni. Mae mwy na 70% o facteria sydd ddim yn bathogenaidd.

Close up image of Staphylococcus aureus (bacteria) Un math o facteria yw Staphylococcus aureus, sy’n rhan o’r fflora dynol arferol, ond weithiau gall achosi heintiau ar y croen. Cymerwyd y ddelwedd o ‘Giant Microbes’.

Rhowch wybod i ni yn y sylwadau isod – ydych chi’n gweld yn aml fod plant a phobl ifanc yn drysu ynghylch y geiriau hyn?

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now