Skip main navigation

Y Cefndir: Lle fyddech chi’n canfod microbau?

Article discussing where microbes can be found using a video from BBC news, and explaining the "hygiene hypothesis".
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: gwneud eich microbau eich hun, dwylo difrifol, arbrawf sebon, dŵr a phupur.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Daw’r fideo uchod o Newyddion y BBC.

Mae’r fideo uchod yn Saesneg, gallwch weld crynodeb Cymraeg ohono yn yr adran lawrlwytho isod.

Yr “hypothesis hylendid”

Roedd adroddiad y Gymdeithas Iechyd Cyhoeddus Frenhinol “Too Clean Or Not Too Clean” a gyhoeddwyd ym mis Mehefin 2019 yn dangos bod un ymhob pedwar oedolyn yn y DU yn teimlo nad yw ‘hylendid yn y cartref yn bwysig am fod angen i blant ddod i gysylltiad â germau niweidiol er mwyn cryfhau eu systemau imiwnedd’. Mae’r cyfryngau yn aml yn gofyn y cwestiwn: “ydyn ni’n rhy lân?” ac mae’n debyg bod hynny wedi cyfrannu at y syniad yma.

Yn anffodus, oherwydd y syniad cyffredin ond anghywir yma o gysylltiad rhwng clefydau a’r ffaith ein bod ni’n dod i gysylltiad â llai o ficrobau, sef yr “hypothesis hylendid”, mae’r cyhoedd wedi dechrau credu mai achos sylfaenol clefyd yw “gormod o hylendid neu lanweithdra” ac mae’r myth hwn, sy’n cael ei ailadrodd yn aml, yn cael ei dderbyn fel ffaith erbyn hyn.

Yn yr 20 mlynedd diwethaf, mae wedi dod yn hysbys, er ei bod hi’n hanfodol i ni ddiogelu rhag microbau niweidiol, mae yr un mor bwysig i’n hiechyd ein bod ni’n dod i gysylltiad â “microbau cyfeillgar” gan bobl eraill, gan ein hanifeiliaid, ac yn ein hamgylchedd naturiol. Mae angen hyn er mwyn adeiladu microbau iach ac amrywiol yn ein perfeddion, cegau, llwybr anadlu ac ar ein croen. Rydym yn cyfeirio at hyn fel ein microbiom. Gallai peidio dod i gysylltiad â microbau oherwydd pob math o newidiadau yn ein dull o fyw (treulio llai o amser yn yr awyr agored, gorddefnyddio gwrthfiotigau, ac ati) gyfrannu at gynnydd yn y lefelau o glefydau, sy’n amrywio o alergeddau i ddiabetes ac iselder.

Yn y sylwadau isod, gadewch i ni wybod beth mae plant ac oedolion yn ei ddweud wrthych am eu hagwedd nhw tuag at lanweithdra ac am ddod i gysylltiad â microbau.

Rydym yn eich annog i ryngweithio â dysgwyr eraill drwy ‘hoffi’ ac ateb.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now