Skip main navigation

Cefndir: Ymlediad heintiau ar ein dwylo a thrwy disian

Article discussing how infection can be spread through hands, sneezes, etc, and how this differs for bacteria, fungi, and viruses.
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: hylendid resbiradol, dwylo difrifol, ac arbrawf sebon, dŵr a phupur.

Clywsom yn gynharach am facteria, firysau a ffyngau: tri math gwahanol o ficrob sy’n gallu achosi haint. Rydym yn dweud bod rhywun sydd wedi dal microbau niweidiol sy’n achosi clefyd yn rhywun heintiedig. Mae clefydau sy’n cael eu hachosi gan ficrobau fel hyn yn glefydau heintus.

  • Pan fydd bacteria niweidiol yn atgynhyrchu yn ein cyrff, gallant gynhyrchu sylweddau niweidiol o’r enw tocsinau sy’n gallu gwneud i ni deimlo’n sâl, neu yn y sefyllfa waethaf, niweidio meinweoedd ac organau.
  • Mae firysau’n gweithredu fel parasitiaid. Pan fydden nhw’n mynd i mewn i’n cyrff, mae’n rhaid iddyn nhw gael cell letyol er mwyn goroesi. Unwaith maen nhw tu mewn i’r gell, maen nhw’n lluosogi ac, wedi iddyn nhw dyfu’n llawn, maen nhw’n torri’n rhydd gan ddinistrio’r gell letyol ar yr un pryd.
  • Yn gyffredinol, nid yw ffyngau’n lladd eu lletywyr. Mae’n well gan y dermatoffytau, sef math o ffyngau pathogenaidd, dyfu neu gytrefu o dan y croen. Y cynhyrchion eilaidd maen nhw’n eu cynhyrchu wrth fwydo sy’n achosi chwyddo ac ysu, fel tarwden y traed.

Mae llawer o’r microbau niweidiol yn gallu pasio o un person i’r llall drwy nifer o wahanol lwybrau – aer, cyffyrddiad, dŵr, bwyd, aerosolau, anifeiliaid ac ati.

Mae’n bwysig cofio nad yw pob microb yn niweidiol. Mae rhai microbau dim ond yn niweidiol pan gânt eu tynnu allan o’u hamgylchedd arferol. Er enghraifft, mae’r Escherichia coli (E. coli) i’w gael yn gyffredin yn ein perfedd ac nid yw’n gwneud unrhyw niwed yno, ond os bydd yn cael ei drosglwyddo i’r llwybr wrinol gall achosi heintiau’r llwybr wrinol a’r arennau.

Cartoon image showing examples of how infection can be spread

Cymerwyd y llun o Becyn Cynradd e-Byg “1.3 Micro-organebau: Microbau Niweidiol” Taflen Ddosbarthu i’r Myfyrwyr 1.

COVID-19

Mae llywodraeth Cymru wedi cyhoeddi canllawiau am COVID-19 i leoliadau addysgol a lleoliadau anghlinigol eraill. Mae gan e-Byg dudalen we hefyd sy’n tynnu sylw at adnoddau a gwybodaeth am y clefyd hwn yn benodol.

Gallwn gyfyngu ymlediad clefydau drwy gadw at arferion hylendid y dwylo a hylendid resbiradu da, a byddwn yn trafod y rhain drwy gydol y camau nesaf.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now