Skip main navigation

Y Cefndir: Trosglwyddiad microbau a phwysigrwydd hylendid da ar yr adeg gywir

Article discussing how we can prevent the spread of harmful microbes, especially through hygiene practices.
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: hylendid resbiradol, dwylo difrifol, ac arbrawf sebon, dŵr a phupur.

Hylendid yw grŵp o weithgareddau a wnawn i atal microbau niweidiol rhag ymledu. Trwy wybod sut i fynd ati’n effeithiol i gadw’r microbau hyn rhag ymledu mewn ysgolion, cartrefi a chymunedau, gallwn leihau heintiau a allai fod yn beryglus, gostwng absenoldebau oherwydd salwch o’r ysgol a’r gwaith, a gostwng y straen ar y gwasanaethau iechyd.

Roedden ni wedi gweld yn gynharach bod adroddiad diweddar a gomisiynwyd gan y Gymdeithas Iechyd Cyhoeddus Frenhinol (RSPH) yn dangos bod gan y cyhoedd yn y Deyrnas Unedig ddealltwriaeth weddol dda o bwysigrwydd hylendid i atal clefydau heintus, gan gynnwys ei rôl mewn gostwng pwysau ar y GIG, ac ymdrin ag ymwrthedd i wrthfiotigau.

Mae’r Fforwm Gwyddonol Rhyngwladol ar Hylendid y Cartref wedi datblygu dull o ymdrin â hylendid yn y cartref ac mewn bywyd pob dydd o’r enw Hylendid wedi’i Dargedu, sy’n canolbwyntio ar dorri cadwyn haint, gan sicrhau ar yr un pryd ein bod ni’n dal i ddod i gysylltiad â’r microbau yr ydym eu hangen er mwyn cael microbiom iach.

Mae hylendid wedi’i dargedu’n canolbwyntio ar y mannau lle mae microbau niweidiol i’w cael, sef: pobl eraill, bwyd a dŵr halogedig, ac anifeiliaid yn y cartref. Rhaid i fesurau fel golchi dwylo a glanhau arwynebau ganolbwyntio ar yr arwynebau critigol sy’n fwyaf tebygol o ymledu microbau niweidiol. Dyma rai o’r “adegau” allweddol i ganolbwyntio ar arferion hylendid:

  • Wrth drin bwyd
  • Wrth fwyta gyda’r bysedd
  • Wrth ddefnyddio’r toiled
  • Pesychu, tisian a chwythu’r trwyn
  • Cyffwrdd arwynebau y mae pobl eraill yn eu cyffwrdd yn rheolaidd
  • Trin a golchi dillad a llieiniau ‘budr’ y cartref
  • Gofalu am anifeiliaid y cartref
  • Trin a chael gwared â sbwriel
  • Gofalu am aelod o’r teulu sy’n heintiedig

Erthygl newyddion – Ydych chi’n gwybod lle mae’r mannau problemus o ran hylendid yn eich cartref chi?

Ar yr adegau allweddol, rhaid defnyddio arferion hylendid i atal microbau niweidiol rhag parhau i ymledu. Mae angen i’r holl ddolenni yn y gadwyn haint fod yn eu lle er mwyn i haint ymledu – felly os byddwn yn torri un o’r dolenni yn y gadwyn, yna ni all haint ymledu (gwelwch y llun isod).

Flow-chart-type image showing how microbes spread (spread of pathogens-portal of entry-recipient-source of pathogens-exist route) and a list of examples of when harmful microbes are likely to spread (e.g. during food handling, caring for domestic animals, and handling dirty clothes and household linens)

Cymerwyd y ddelwedd o Adroddiad RSPH: Too clean or not too clean?

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now