Skip main navigation

Hylendid y dwylo

Article discussing the benefits of hand hygiene, importance of soap, and when we should wash our hands. Watch a video on how to wash hands.
cartoon image of hands and bubbles
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: hylendid resbiradol, dwylo difrifol, ac arbrawf sebon, dŵr a phupur.

Mae’n debyg mai hylendid y dwylo yw’r un ffordd fwyaf effeithiol o ostwng ac atal lledaeniad heintiau ac mae’n ymyriad ymddygiadol pwysig i’w ddysgu i blant ifanc a’i atgyfnerthu wedyn.

Pam fod hylendid y dwylo mor bwysig?

  • Mae ysgolion a grwpiau cymunedol yn amgylcheddau gweddol brysur wedi eu cau i mewn lle gall microbau ymledu’n hawdd ac yn gyflym o un plentyn i’r llall drwy gysylltiad uniongyrchol neu ar arwynebau.
  • Trwy olchi ein dwylo gyda sebon a dŵr ar adegau allweddol, rydyn ni’n tynnu unrhyw ficrobau niweidiol a godwn ar ein dwylo o’n hamgylchedd (e.e. cartref, ysgol, gardd, anifeiliaid, anifeiliaid anwes, bwyd).
  • Mae profiad wedi dangos bod golchi’r dwylo’n effeithiol yn gostwng y cyfraddau absenoldeb mewn ysgolion. Roedd y cyfraddau absenoldeb yn is yn ystod tymor y ffliw i fyfyrwyr ysgol gynradd a dderbyniodd gyfarwyddiadau byr am hylendid y dwylo.
  • Mae golchi ein dwylo hefyd yn helpu i atal ymlediad ymwrthedd i wrthfiotigau (byddwn yn edrych ar hyn yn wythnos 3).

Pam fod angen sebon er mwyn golchi’r dwylo’n effeithiol?

  • Mae ein dwylo wedi eu gorchuddio gan facteria defnyddiol yn naturiol – y bacteria hyn fel arfer yw Staphylococcus (bacteria siâp pêl wedi eu trefnu mewn clystyrau).
  • Mae ein dwylo’n secretu olew yn naturiol sy’n helpu i gadw ein croen yn llaith ac yn ei atal rhag mynd yn rhy sych, ac mae’n cadw microbiom ein croen yn iach.
  • Ond, mae’r olew hwn yn lle perffaith i ficrobau dyfu a lluosogi, ac mae’r olew’n helpu microbau i “lynu” at ein croen.
  • Mae angen sebon i dorri’r olewau ar arwyneb y dwylo sy’n dal y microbau. Heblaw am Staphylococcus aureus, nid yw microbau niweidiol yn tyfu ar ein croen fel arfer, ond mae’r olew yn eu helpu nhw i lynu at ein croen.
  • Mae golchi dwylo mewn dŵr yn unig dim ond yn dileu baw a budreddi gweladwy. Heb sebon, bydd microbau anweledig yn aros.
  • Sylwch, fodd bynnag, dim ond gweithred ladd gyfyngedig sydd gan sebon ar ficrobau. Mae hyn yn golygu bod rinsio’r dwylo o dan ddŵr sy’n rhedeg yr un mor bwysig er mwyn tynnu microbau o’r dwylo.

Gwyliwch y fideo hwn gan y GIG ar sut i olchi eich dwylo.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Gallwch weld crynodeb PDF o’r fideo yn yr adran lawrlwytho isod.

Adegau allweddol i olchi’r dwylo

  • Cyn, yn ystod ac ar ôl paratoi bwyd, sy’n cynnwys cig amrwd
  • Cyn bwyta neu drin bwyd sy’n barod i’w fwyta
  • Ar ôl defnyddio’r toiled
  • Ar ôl dod i gysylltiad ag anifeiliaid neu faw anifeiliaid
  • Ar ôl pesychu, tisian neu chwythu eich trwyn
  • Os ydych yn sâl neu wedi bod o amgylch pobl sy’n sâl

Cartoon image showing how we can 'break the chain of infection' - wash hands after handling pets, after visiting the toilet, after touching food, and after coughing, sneezing, or blowing your nose (Cliciwch i edrych yn agosach)

Cymerwyd y ddelwedd o Adroddiad RSPH: Too clean or not too clean?

Adnoddau am hylendid y dwylo sy’n addas i blant:

Mae’r fideo hwn gan y GIG ar olchi’r dwylo’n cynnwys cân i annog plant i olchi eu dwylo gan ddefnyddio’r chwe cham golchi dwylo dros gyfnod o 20 eiliad.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Mae Crynodeb PDF o’r fideo i’w gael yn yr adran lawrlwytho isod.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now