Skip main navigation

New offer! Get 30% off one whole year of Unlimited learning. Subscribe for just £249.99 £174.99. New subscribers only. T&Cs apply

Find out more

Gweithgareddau Lledaenu Bygiau

Three examples of activities which can be used with groups to discuss how germs spread.

Datblygwyd e-Byg i’w ddefnyddio mewn ysgolion cyn COVID-19 felly efallai y bydd angen i chi addasu rhai o’r gweithgareddau ar sail canllawiau cadw pellter eich ysgol. Barnwch chithau a dywedwch wrthym sut rydych chi wedi addasu’r gweithgareddau, neu os hoffech drafod syniadau cysylltwch ag Healthy.schools@wales.nhs.uk neu Ysgolion.Iach@cymru.nhs.uk


Gweithgaredd hylendid resbiradol

Yn addas i Gyfnodau Allweddol 1, 2 a 3 a grwpiau cymunedol.

Gwyliwch y fideo uchod os gwelwch yn dda i weld dangosiad llawn o’r gweithgaredd hwn.

Mae’r gweithgaredd hwn wedi bod yn boblogaidd mewn sawl sefyllfa wahanol, gan gynnwys gwasanaethau ysgol, sioeau a gwyliau gwyddoniaeth, ac hyd yn oed mewn digwyddiad lansio brechlyn ffliw i bobl broffesiynol ym maes iechyd cyhoeddus! Mae’n dangos y ffordd orau o gadw peswch a thisiad rhag gwasgaru microbau.

Gallwch weld crynodeb o’r cyfarwyddiadau i ysgolion a grwpiau cymunedol yma. Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Photo of the respiratory hygiene activity being carried out


Dwylo Difrifol (10-15 munud)

Yn addas i Gyfnodau Allweddol 1 a 2, a grwpiau cymunedol.

Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn defnyddio gel UV a thortsh i ddangos lledaeniad microbau drwy gyfrwng ein dwylo. Mae’r hylif UV anweledig yn cynrychioli’r “microbau ffug” tra bo’r tortsh yn cynrychioli “canfyddwr microbau”, oherwydd dim ond o dan olau UV y gallwch chi weld y gel.

Gallwch weld crynodeb o’r cyfarwyddiadau i ysgolion a grwpiau cymunedol yma. Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Photo of hands and hands with UV light shining on them


Yr Arbrawf Sebon, Dŵr a Phupur (10 munud)

Yn addas i Gyfnodau Allweddol 1 a 2 a grwpiau cymunedol.

Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn defnyddio dosbarthwr sebon llaw, pupur a dŵr i ddangos pam fod angen i ni ddefnyddio sebon i olchi ein dwylo a pham nad yw dŵr ar ei ben ei hun mor effeithiol.

Gallwch weld crynodeb o’r cyfarwyddiadau i ysgolion a grwpiau cymunedol yma. Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Photo of the soap water pepper experiment being carried out by children


Os ydych chi’n cefnogi dysgu yn y cartref neu’n gweithio gyda grwpiau bach o blant, mae gennym weithgareddau ychwanegol am ficrobau a lledaeniad heintiau yn ein Pecyn Gweithgareddau i Arweinwyr a Gwirfoddolwyr ar gyfer Bathodyn Ieuenctid y Gofalwr Gwrthfiotigau. Cliciwch yma i agor yr adnodd hwn.


Ydych chi wedi gwneud unrhyw weithgareddau sy’n debyg i’r rhain?

Gadewch i ni wybod am eich profiadau yn y sylwadau isod.

This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now