Skip main navigation

Crynodeb o wythnos 1

Summary of content discussed in week 1 of the course.
cartoon image of streamers
Diolch yn fawr am gwblhau wythnos gyntaf y cwrs Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd, gobeithio eich bod wedi ei fwynhau hyd yma!

Yr wythnos hon cawsom gyflwyniad i ficrobau, gan gynnwys esiamplau o ficrobau defnyddiol a niweidiol ac ymhle y gallwn eu canfod mewn bwyd, ar ein cyrff neu yn y cartref. Aethom ati i edrych ar bwysigrwydd Hylendid wedi’i Dargedu, h.y. hylendid ar adegau allweddol pan mae microbau niweidiol yn fwyaf tebygol o ledaenu. Yna aethom ati i edrych yn fanylach ar olchi’r dwylo ar eiliadau/adegau critigol i ostwng lledaeniad haint. Edrychom hefyd ar ledaeniad heintiau drwy gyfrwng ein dwylo a thrwy besychu a thisian, sut y gallwn ni atal hyn drwy hylendid resbiradol da, a gweithgareddau ymarferol y gallwch eu defnyddio yn eich ysgol neu grwpiau cymunedol i ddangos lledaeniad ac ataliad heintiau.

Yr wythnos nesaf yw Wythnos Dau, ac rydym hanner ffordd drwy’r cwrs e-Byg i addysgwyr. Yn ystod Wythnos Dau, byddwn yn edrych ar hylendid bwyd a hylendid y geg, gan gynnwys microbau a gludir gan fwyd, croeshalogiad a sut i’w atal, yn ogystal ag effaith bwydydd a diodydd llawn siwgr ar iechyd ein cegau. Byddwn yn edrych ar hyn yn fanwl gan ddefnyddio astudiaethau achos, fideos, a gweithgareddau rhyngweithiol i roi golwg gyffredinol ar y pynciau hyn ac awgrymu syniadau ynglŷn â sut y gallwch addysgu’r pynciau hyn yn eich ysgol neu leoliadau yn y gymuned. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yma eto yr wythnos nesaf ar gyfer Wythnos Dau’r cwrs e-Byg i addysgwyr.

Gadewch i ni wybod yn y sylwadau isod:

  • Oes gennych chi unrhyw gwestiynau am wythnos un?
  • Beth yw’r brif neges rydych chi’n ei chymryd gyda chi o’r wythnos hon?

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now