Skip main navigation

Croeso i wythnos 2

Welcome to week two, read the article discussing the topics covered in this week of the course.
Microbe saying croeso

Croeso i ail wythnos y cwrs Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd. Mae hwn yn gwrs tair wythnos gan e-Byg, adnodd addysgol rhad ac am ddim a weithredir gan Public Health England (PHE) i addysgu plant a phobl ifanc 4-18 oed a grwpiau cymunedol am hylendid, haint a gwrthfiotigau.

Nod yr wythnos hon yw cynyddu gwybodaeth, sgiliau a hyder y cyfranogwyr sy’n addysgu plant a phobl ifanc am hylendid bwyd a hylendid y geg.

  • Bydd yr wythnos yn cychwyn gydag ychydig o ffeithiau am ficrobau mewn bwyd a sut maen nhw’n gallu ymledu drwy’r bwyd neu dros arwynebau cegin glân ac arwain at groeshalogiad.
  • Yna byddwn yn canolbwyntio ar ffyrdd o atal hyn drwy storio bwyd yn gywir, talu sylw i labeli bwyd ac ailgynhesu gweddillion bwyd yn drwyadl.
  • Byddwn yn archwilio agweddau allweddol o hylendid y geg, gan gynnwys buddion glanhau dannedd yn effeithiol a’r dylanwad y gall bwyd a diod llawn siwgr ei gael ar hylendid y geg.
  • Byddwch yn dysgu am ffyrdd o addysgu’r pynciau hyn i fyfyrwyr ac aelodau’r gymuned gan ddefnyddio gweithgareddau ymarferol, gemau ac adnoddau eraill.

Bydd cynllun y cwrs bob wythnos yn canolbwyntio ar roi gwybodaeth gefndir i chi am bynciau penodol ac yna weithgareddau ac offer y gall addysgwyr eu defnyddio i gyfathrebu negeseuon allweddol i blant a phobl ifanc.

Y deilliannau dysgu ar gyfer Wythnos 2

Erbyn diwedd yr wythnos hon byddwch yn gallu:

  • Esbonio i blant a phobl ifanc bod microbau i’w cael ar y rhan fwyaf o’n bwyd a gallent ein gwneud ni’n sâl os nad yw’r bwyd wedi ei baratoi’n gywir.
  • Dangos i blant a phobl ifanc beth yw croeshalogiad, risgiau ac achosion croeshalogiad, a sut y gallwn ni atal hyn, drwy ddangosiad fideo a gweithgareddau hylendid bwyd ymarferol.
  • Esbonio i blant a phobl ifanc nad yw rhoi bwyd yn yr oergell yn lladd microbau ond ei fod yn eu hatal nhw rhag lluosogi, a phwysigrwydd dilyn y canllawiau ar gyfer storio ac ail gynhesu bwyd.
  • Dangos i blant a phobl ifanc mor bwysig yw hi i olchi’r dwylo cyn ac ar ôl paratoi bwyd, golchi offer coginio a glanhau arwynebau.
  • Archwilio buddion brwsio’r dannedd yn effeithiol a dangos i blant a phobl ifanc sut effaith y mae bwydydd a diodydd llawn siwgr yn ei chael ar iechyd y geg gan ddefnyddio gweithgaredd ymarferol.

Bydd y canlyniadau dysgu hyn yn sicrhau eich bod chi’n gallu esbonio i blant a phobl ifanc bod microbau i’w cael mewn bwyd, pam fod hylendid bwyd da’n bwysig, a sut mae cynnal a chadw iechyd da’r geg yn gallu atal pydredd y dannedd.

Gadewch i ni wybod yn y sylwadau – beth ydych chi’n edrych ymlaen at ei ddysgu fwyaf yn wythnos 2?

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now