Skip main navigation

Y cefndir: microbau a gludir gan fwyd

Article describing how microbes can be both useful and harmful, and two videos specifically on Salmonella and Campylobacter.

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: fideo canfod y camgymeriadau, trefnu bwyd, a pa mor lân yw eich cegin.

Yn wythnos un buom yn trafod y ffaith fod microbau defnyddiol a niweidiol i’w cael mewn bwyd.

  • Gallwn ni ddefnyddio microbau defnyddiol i wneud gwahanol fathau o fwydydd a diodydd, e.e. rydyn ni’n defnyddio’r burum Saccharomyces cerevisiae i wneud bara a chwrw.
  • Defnyddir y bacteria Lactobacilli i wneud iogwrt a chaws, ac maen nhw i’w cael hefyd yn naturiol yn ein perfeddion. Ond, i bobl sydd â systemau imiwnedd gwanach, neu unigolion sy’n cael triniaeth canser, mae Lactobacilli weithiau’n gallu cael effaith wahanol a gwneud iddyn nhw deimlo’n sâl.
  • Dydy’r mwyafrif o ficrobau mewn bwyd ddim yn niweidiol i bobl, ond mae rhai microbau sydd ar fwyd neu mewn bwyd yn achosi salwch os nad yw’r bwyd wedi ei goginio’n drwyadl. Dyma rai esiamplau o’r microbau hyn: Salmonella, E. coli a Campylobacter.

Close up, colourful image of Salmonella

Cymerwyd y ddelwedd hon o ‘Giant Microbes’.

Salmonela

(Salm-on-ela)

Close up image of campylobacter

Cymerwyd y ddelwedd hon o Lyfrgell Delweddau Iechyd Cyhoeddus CDC.

Campylobacter

(Cam-py-lo-bac-ter)

Gwyliwch y clip hwn am Salmonela (2 funud), sy’n rhoi golwg byr i chi ar yr hyn sy’n achosi gwenwyno bwyd Salmonela, a sut i leihau’r risg y gallech ei ddal.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Gwyliwch y clip hwn am Campylobacter (1 funud 45 eiliad), sy’n rhoi golwg byr i chi ar yr hyn sy’n achosi gwenwyno bwyd Campylobacter, beth yw’r symptomau, a sut i leihau’r risg y gallech ei ddal.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Mae crynodeb PDF o’r fideos i’w gael yn yr adran lawrlwytho isod.

Sut mae microbau’n tyfu ar fwyd?

Amodau cynnes, llaith sydd orau i ficrobau dyfu ar fwyd.

Mae llawer o ficrobau peryglus:

  • yn casáu mannau sy’n rhy boeth ac yn cael eu lladd ar dymheredd uwch na 70°C.
  • yn lluosogi’n araf iawn, neu ddim o gwbl, ar dymheredd o 4°C neu’n is.
  • yn gallu goroesi cael eu rhewi neu’n byw ar dymheredd isel ac yn gallu dechrau lluosogi eto os bydd yr amodau ffafriol yn dychwelyd.

Gadewch i ni wybod yn y sylwadau – ydy’r plant yr ydych yn gweithio â nhw yn trafod hylendid bwyd o gwbl?

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now