Skip main navigation

Y Cefndir: Beth yw plac dannedd a sut mae’n ffurfio?

Article discussing what dental plaque is, how it forms, and why it is a problem.
Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: hylendid iach y geg a diet iach: faint o siwgr sydd yn eich diodydd.

Mae data gan Public Health England o 2019 wedi canfod fod bron i 9 allan o bob 10 achos o dynnu dannedd ymysg plant dan 5 oed wedi digwydd oherwydd pydredd ataliadwy i’r dannedd. Mewn plant 6 i 10 oed, tynnu dannedd yw’r driniaeth ysbyty fwyaf cyffredin. Mae heintiau sy’n datblygu o bydredd dannedd yn gallu achosi mwy o straen ar y gwasanaeth iechyd, gorddefnyddio gwrthfiotigau ac ymwrthedd i wrthfiotigau.

Wyddoch chi? Gall effeithiau pydredd ddannedd achosi problemau gyda bwyta, cysgu, cyfathrebu a chymdeithasu, ac mae o leiaf 60,000 o ddyddiau’n cael eu colli o’r ysgol bob blwyddyn dim ond ar gyfer tynnu dannedd yn yr ysbyty.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Mae crynodeb PDF o’r fideo yn yr adran lawrlwytho isod.

Infographic - average cost of tooth extraction for child 5 and under is £836, £50.5million spent on tooth extractions in those under 19 in 2015 and 2016, £7.8million spent on tooth extractions in under 5s

Cymerwyd y ddelwedd o “Health Matters” Public Health England.

Mae plac dannedd yn ffurfio pan fydd bacteria yn datblygu ar ein dannedd a’n tafod, gan lynu at ei gilydd i ffurfio sylwedd gludiog o’r new plac.

  • Mae plac yn adeiladu drwy’r dydd a’r nos ac yn cael ei dynnu pan fyddwn yn brwsio ein dannedd a’n deintgig yn ofalus. Dyna pam mae hi mor bwysig i frwsio eich dannedd bob bore a nos.
  • O’i adael heb ei lanhau, bydd plac meddal yn troi’n ddeintgen caled wrth i’r mwynau o’r poer fynd i mewn iddo – gallwch weld hwn fel llinell lliw hufen o amgylch eich dannedd, neu gallwch ei deimlo gyda’ch tafod fel haen o ffwr.
  • Yn yr amgylchedd cywir, gall bacteria plac ddefnyddio’r siwgr yn y bwyd a fwytawn i achosi pydredd dannedd.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now