Skip main navigation

Y cefndir: “Ymosodiadau siwgr”

Article explaining what a 'sugar attack' is and why they are bad for our teeth.
cartoon image of a tooth and toothbrush

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: hylendid iach y geg a diet iach: faint o siwgr sydd yn eich diodydd.

Mae “ymosodiad siwgr” ar ein dannedd yn digwydd pan fyddwn yn bwyta bwydydd llawn siwgr a diodydd sy’n cynnwys siwgr rhydd.

  • Y siwgr rhydd yw’r siwgr sydd ddim y tu mewn i strwythur y cellau yn barod yn y bwyd rydym ni yn ei fwyta.
  • Maen nhw’n cael eu hychwanegu gan y cogydd, y bwytawr neu’r cynhyrchwyr, neu maen nhw’n bresennol yn naturiol mewn mêl, surop a sudd ffrwythau naturiol.
  • Dydy’r siwgr sydd i’w gael yn naturiol yng nghelloedd ffrwythau cyfan, llaeth a charbohydradau heb eu prosesu (fel reis brown a phasta gwenith cyflawn) ddim yn siwgr rhydd a dydy hwn ddim yn cael yr un effaith niweidiol ar iechyd y geg.
Wyddoch chi? Un llwy de o siwgr = 4g. Yr uchafswm o siwgr a argymhellir i’w fwyta pob dydd i: blant 4 – 6 oed = 19g (5 llwy de), 7 – 10 oed = 24g (6 llwy de), 11+ oed = 30g (7 llwy de). Ni ddylai siwgr rhydd fod yn fwy na 5% o egni dietegol cyfan oedolion a phlant.

Mae canlyniadau “ymosodiadau siwgr” a hylendid gwael y geg yn cyfrannu at bydredd dannedd mewn plant.

  • Mae’r bacteria yn y plac yn defnyddio’r siwgr ac yn creu asid fel sgil-gynnyrch. Dros amser mae’r asid yn dechrau toddi’r mwynau o arwyneb allanol ein dannedd (yr enamel).
  • Wrth i fwy o enamel gael ei doddi gan yr asid, mae twll yn ymddangos sy’n gallu ymledu i ail haen y dant (y dentin).
  • Wrth i’r broses bydru barhau, mae’r twll yn parhau i dyfu a gall wneud y nerf tu mewn i’r dant yn llidus, gan achosi poen.
  • Os na fydd deintydd yn trin y dannedd, gallai’r pydredd dannedd arwain at haint yn y deintgig. Gall hyn eich gwneud chi’n wael iawn gyda wyneb neu wddf wedi chwyddo, ac mewn achosion eithriadol gall beryglu bywyd. Un ffordd o drin yr haint yw tynnu’r dant heintiedig. I osgoi hynny, ewch i weld y deintydd yn rheolaidd a bydd yn gallu canfod camau cynnar o bydredd a rhoi triniaeth i chi cyn i unrhyw boen ddigwydd.

Cartoon image of sugary 'junk' food with a cross, and fruit, water, 'healthy' food with a tick. Caption "Reduce the amount of foods and drinks that contain 'free' sugars. Swap sugary drinks for water or plain milk to prevent tooth decay."

Cymerwyd y ddelwedd o “Health Matters” Public Health England.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now