Skip main navigation

Gweithgareddau byg y geg

Three examples of activities to teach groups about oral hygiene and the effects of sugar on our teeth.
© BSAC & PHE

Datblygwyd e-Byg i’w ddefnyddio mewn ysgolion cyn COVID-19 felly efallai y bydd angen i chi addasu rhai o’r gweithgareddau ar sail canllawiau cadw pellter eich ysgol. Barnwch chithau a dywedwch wrthym sut rydych chi wedi addasu’r gweithgareddau, neu os hoffech drafod syniadau cysylltwch ag Healthy.schools@wales.nhs.uk neu Ysgolion.Iach@cymru.nhs.uk

Hylendid iach y geg (10-15 munud)

Yn addas i Gyfnod Allweddol 2

Mae’r gweithgaredd hwn yn gofyn cadw dyddiadur glanhau’r dannedd i fonitro pa mor aml mae glanhau’r dannedd yn digwydd bob diwrnod o’r wythnos.

Yn y fan yma mae crynodeb o’r cyfarwyddiadau i ysgolion a grwpiau cymunedol.

Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Diet Iach: Faint o siwgr sydd yn eich diodydd? (15-20 munud)

Yn addas i Gyfnod Allweddol 2 a grwpiau cymunedol

Mae’n bosibl defnyddio’r gweithgaredd hwn fel dull ysgol gyfan i ymdrin â faint o ddiodydd llawn siwgr sy’n cael eu hyfed. Mae wedi cael ei ddefnyddio’n aml mewn ysgolion, a gallwch wneud arddangosiadau i ddangos faint o siwgr sydd i’w gael mewn diodydd poblogaidd. Mae’r dangosiadau hyn yn addas i goridorau, ystafelloedd dosbarth, neu hyd yn oed ystafell ginio’r ysgol.

Yn y fan yma mae crynodeb o’r cyfarwyddiadau i ysgolion a grwpiau cymunedol.

Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw weithgareddau sy’n debyg i’r rhain?

Gadewch i ni wybod beth yw eich profiadau yn y sylwadau isod.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now