Skip main navigation

Crynodeb o wythnos 2

Article providing a summary of content covered in week 2, and preview of week 3 content.
© BSAC & PHE

Diolch am gwblhau ail wythnos y cwrs e-Byg i Addysgwyr Iechyd.

Yr wythnos hon rydym wedi edrych ar hylendid bwyd a hylendid y geg, gan gynnwys sut i atal salwch a gludir gan fwyd drwy olchi’r dwylo ar bwyntiau critigol ac atal croeshalogiad. Rydym hefyd wedi edrych ar bwysigrwydd gofalu am hylendid da’r geg a chadw unrhyw fwydydd a diodydd llawn siwgr a gymerwn i amseroedd prydau yn unig er mwyn sicrhau ein bod yn cadw’r “ymosodiadau siwgr” mor isel ag sy’n bosibl. Rydym hefyd wedi edrych ar weithgareddau ymarferol y gallwch eu defnyddio i addysgu hylendid bwyd da ac iechyd y geg.

Yr wythnos nesaf yw wythnos tri, wythnos olaf y cwrs e-Byg i addysgwyr pan fyddwn yn ymdrin â gwrthfiotigau a hunanofal gyda gweithgareddau “Trechu’r Bygiau” e-Byg. Mae nifer o’r pynciau rydyn ni wedi edrych arnynt hyd yma wedi trafod ymlediad heintiau ac effaith gyffredinol ein hymddygiad ar ddatblygiad ymwrthedd i wrthfiotigau. Byddwn yn trafod gwrthfiotigau ac ymwrthedd i wrthfiotigau yn fanylach, er mwyn cael golwg fwy trwyadl ar y pwnc iechyd cyhoeddus pwysig hwn: gyda fideos, gweithgareddau rhyngweithiol ac astudiaeth achos. Edrychwn ymlaen at eich gweld chi yma eto wythnos nesaf ar gyfer wythnos olaf y cwrs e-Byg i addysgwyr.

Gadewch i ni wybod yn y sylwadau isod:

  • Oes gennych chi unrhyw gwestiynau o wythnos dau?
  • Beth oedd eich prif neges i’w chymryd gyda chi o’r wythnos hon?
© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now