Skip main navigation

Gweithgareddau Trechu’r Bygiau

Four examples of activities to teach groups about antimicrobial resistance, and links to further external resources.

Datblygwyd e-Byg i’w ddefnyddio mewn ysgolion cyn COVID-19 felly efallai y bydd angen i chi addasu rhai o’r gweithgareddau ar sail canllawiau cadw pellter eich ysgol. Barnwch chithau a dywedwch wrthym sut rydych chi wedi addasu’r gweithgareddau, neu os hoffech drafod syniadau cysylltwch ag Healthy.schools@wales.nhs.uk neu Ysgolion.Iach@cymru.nhs.uk

Stribed comig (10-15 munud)

Yn addas ar gyfer CA2 a grwpiau cymunedol

Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu cyfranogwyr i ddeall sut i ddefnyddio gwrthfiotigau’n gywir, gan gynnwys pryd na ddylech chi eu cymryd a pham.

Mae crynodeb o’r cyfarwyddiadau ar gyfer grwpiau ysgol a grwpiau cymunedol yma. Hefyd, mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod.

Ymwrthedd bacteriol (10-15 munud)

Yn addas i Gyfnodau Allweddol 3, 4 a 5 a grwpiau cymunedol

Mae’r gweithgaredd hwn yn defnyddio dangosiad gweledol i esbonio beth yw ymwrthedd i wrthfiotigau gan ddefnyddio balŵns, a sut y gall hyn ymledu drwy atgynhyrchiad i facteria eraill.

Mae crynodeb o’r cyfarwyddiadau ar gyfer grwpiau ysgol a grwpiau cymunedol yma. Hefyd, mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod.

Ymwybyddiaeth am Wrthfiotigau a Newid Lliw

Yn addas i Gyfnod Allweddol 2 a grwpiau cymunedol

Mae’r gweithgaredd hwn yn cynnwys arbrawf sy’n defnyddio newidiadau mewn lefelau pH a newid lliw i esbonio bod gwrthfiotigau’n effeithio ar heintiau bacteriol yn unig, ac nad ydynt yn cael unrhyw effaith o gwbl ar heintiau firaol.

Mae crynodeb yma o’r cyfarwyddiadau ar gyfer grwpiau ysgol a grwpiau cymunedol. Hefyd, mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod.

Arbrawf gan ddefnyddio platiau agar

Yn addas i Gyfnod Allweddol 3

Yn y gweithgaredd hwn byddwch yn gwneud arbrawf gyda phlatiau meithriniad agar a dangosyddion. Byddwch yn tyfu meithriniadau microbaidd ac yn profi a yw’r microbau’n cael eu lladd gan amrywiaeth o wrthfiotigau, yna byddwch yn penderfynu pa ficrob sy’n achosi’r salwch ac a oes angen gwrthfiotigau.

Mae crynodeb o’r cyfarwyddiadau ar gyfer grwpiau ysgol a grwpiau cymunedol yma. Hefyd, mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod.

picture of agar plate with labels from left to right: Penicillin, Meticillin, Erythromycin, Vancomycin, Amoxicillin

Cymerwyd y ddelwedd o becyn gwers CA3 e-Byg.

Gwrthfiotigau ar blât agar: O’r chwith i’r dde: Penisilin, Meticillin, Erythromycin, Vancomycin, Amoxicillin.

Fideo o’r arbrawf:

This is an additional video, hosted on YouTube.

Hwyl i’r Plant

Addas i Gyfnod Allweddol 2 a grwpiau cymunedol

This is an additional video, hosted on YouTube.

Yn y bennod hon, mae’r Athro Hallux a Nyrs Nanobot yn dysgu rhagor am system imiwnedd rhyfedd y corff gan ddefnyddio Helitelbubble i edrych ar gelloedd gwaed arbennig, yn cynnwys lymffocytau a ffagocytau.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Yn y bennod hon, mae’r Athro Hallux a Nyrs Nanobot yn canfod rhagor am wrthfiotigau sy’n helpu i drin heintiau difrifol a achosir gan facteria. Roedd y gwrthfiotig cyntaf un, penisilin, yn ganfyddiad damweiniol gan Alexander Fleming yn 1928!

Pecyn drafod am ymwrthedd i wrthfiotigau

Mae hwn yn addas i Gyfnodau Allweddol 3, 4, a 5 a grwpiau cymunedol

Mae e-Byg wedi datblygu pecyn drafod am ymwrthedd i wrthfiotigau sy’n galluogi i fyfyrwyr ac aelodau’r gymuned drafod y pwnc dadleuol hwn: “A ddylai’r GIG ddweud wrth feddygon teulu roi presgripsiwn wedi’i ohirio yn lle rhoi gwrthfiotigau ar unwaith, lle bynnag y gallent?”

Os ydych chi’n cefnogi dysgu yn y cartref neu’n gweithio gyda grwpiau bach o blant, mae gennym weithgareddau ychwanegol am ymwybyddiaeth am wrthfiotegau yn ein Pecyn Gweithgareddau i Arweinwyr a Gwirfoddolwyr ar gyfer Bathodyn Ieuenctid y Gofalwr Gwrthfiotigau. Cliciwch yma i agor yr adnodd hwn.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw weithgareddau sy’n debyg i’r rhain?

Gadewch i ni wybod am eich profiadau yn y sylwadau isod.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now