Skip main navigation

Y cefndir: Ymdrechion cenedlaethol a chymunedol i ostwng ymwrthedd

Article discussing the steps the governments and health systems can take to reduce antimicrobial resistance, with an external video from NICE.
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: cyrchu gwybodaeth am iechyd ar-lein, gweithgareddau am frechiadau, a sefyllfaoedd yn ymwneud â gwrthfiotigau.

Mae llywodraethau a systemau iechyd yn gweithio i ostwng ymwrthedd gwrthficrobaidd drwy wneud pethau fel hyn:

  • Gwella’r ffordd mae systemau gofal iechyd yn darparu moddion gwrthfricrobaidd ac yn rhoi presgripsiwn ar eu cyfer.
  • Cynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd a phobl broffesiynol am ymwrthedd gwrthficrobaidd.
  • Datblygu cyffuriau a thriniaethau newydd.
  • Buddsoddi mewn ymchwil i ddeall y mater yn well.

Mae adroddiad diweddar (Ymdrin ag ymwrthedd gwrthficrobaidd 2019-2024: Cynllun gweithredu cenedlaethol pum mlynedd y DU) yn nodi bod y defnydd o wrthfiotigau yn y DU wedi gostwng, ond bod angen gwneud rhagor yn rhan o hynny i wella gallu’r cyhoedd i atal a rheoli heintiau.

graph-type image showing "amount of antibiotics consumed in the UK - defined daily doses per 1000 inhabitants per day" - 23.4 (2014), 22.6 (2015), 22.2 (2016), 21.7 (2017) - down 7.3% from 2014 to 2017.

Cymerwyd y ddelwedd hon o Ymdrin ag ymwrthedd gwrthficrobaidd 2019-2024: Cynllun gweithredu cenedlaethol pum mlynedd y DU.

Rhan allweddol o gynllun gweithredu cenedlaethol y DU yw sicrhau bod plant a phobl ifanc yn deall y prif faterion sy’n gysylltiedig â chlefydau heintus a defnyddio moddion gwrthficrobaidd. Mae defnyddio e-Byg i addysgu plant a phobl ifanc am heintiau, hylendid a gwrthfiotigau wedi ei grybwyll fel astudiaeth achos o fewn y cynllun gweithredu.

Mae asiantaethau allweddol fel y Sefydliad Cenedlaethol dros Ragoriaeth mewn Iechyd a Gofal (NICE) wedi enwi e-Byg fel un ffordd o gefnogi’r bobl hynny sy’n addysgu plant am hylendid a defnyddio moddion gwrthficrobaidd mewn ffordd sy’n briodol i’w hoedran a’u gallu. Mae’r fideo isod yn esbonio sut mae’r canllawiau’n mynd i’r afael ag ymwrthedd gwrthficrobaidd.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Mae crynodeb PDF o’r fideo yn yr adran lawrlwytho isod.

Mae angen i ni addysgu pobl eraill am fesurau effeithiol i reoli heintiau a defnyddio moddion gwrthficrobaidd yn gywir yn ein cymunedau. Gall hyn gynnwys defnyddio offer fel adnoddau e-Byg i drafod heintiau sy’n gwrthsefyll cyffuriau, defnyddio gwrthfiotigau, a brechiadau, gydag ysgolion a grwpiau cymunedol allweddol. Gall hefyd gynnwys bod yn ymwybodol o bolisïau rheoli heintiau a rheoli moddion gwrthficrobaidd yn ein cymunedau.

Trafodwch yn y sylwadau isod:

  • Ydych chi’n teimlo y gallech chi drafod gwrthfiotigau a brechiadau gyda phlant a phobl ifanc yn eich lleoliad?
  • A oes unrhyw feysydd y gallech chi eu cael yn heriol?
  • Hoffem eich annog i helpu eich gilydd gydag atebion i’ch heriau!
© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now