Skip main navigation

Y cefndir: Brechlynnau a sut i gael gwybodaeth am faterion iechyd

Article discussing why vaccines are important, and a case study about the UK losing its measles elimination status.
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: cyrchu gwybodaeth iechyd ar-lein, gweithgaredd am frechiadau, a sefyllfaoedd yn ymwneud â gwrthfiotigau.

Nawr byddwn yn canolbwyntio’n fyr ar bwysigrwydd brechiadau. Mae brechiadau’n ein cadw ni rhag dal heintiau peryglus ac yn ein helpu i osgoi’r angen am driniaethau meddygol fel moddion gwrthficrobaidd.

Image with cartoon people and text saying "Vaccines save lives. After clean water, vaccination is the most effective public health intervention in the world. Vaccines save lives and promote good health, it's vital that everyone eligible gets vaccinated.

Cymerwyd y ddelwedd o “Health Matters” Public Health England.

Mae llawer o faterion, gan gynnwys pestrustod ynghylch brechiadau oherwydd camwybodaeth, wedi arwain at ostyngiad mewn brechu i blant mewn llawer o wledydd. Mae hyn wedi cyfrannu at achosion o ail weld heintiau oedd wedi diflannu o rai ardaloedd. Er enghraifft, ym mis Awst 2019, collodd y DU ei statws o waredu’r frech goch. Mae sicrhau bod aelodau’r cyhoedd yn derbyn yr wybodaeth gywir am faterion allweddol fel brechiadau’n allweddol er mwyn sicrhau bod ein plant yn gallu byw bywydau iach a’n bod ni’n gallu gostwng lledaeniad ymwrthedd i wrthfiotigau. Mae’n bwysig ein bod ni’n gwybod le i edrych am wybodaeth a chyngor cywir, yn enwedig ar y rhyngrwyd.

Amserlen brechlynnau’r GIG ar gyfer y Cymru.

Astudiaeth achos: Y DU yn colli ei statws o waredu’r frech goch

Ym mis Awst 2019, collodd y DU ei statws o waredu’r frech goch. Derbyniodd y DU y statws hwn gan Sefydliad Iechyd y Byd (WHO) yn 2017, ar sail data o 2014-2016. Ond, yn 2018, roedd cynnydd amlwg yn y nifer o achosion o’r frech goch a gadarnhawyd, gyda 991 o achosion wedi eu cadarnhau yng Nghymru a Lloegr, o’i gymharu â 284 o achosion yn 2017. Roedd nifer y plant a frechwyd yn erbyn y frech goch, clwy’r pennau a rwbela erbyn eu hail ben-blwydd wedi gostwng am y bedwaredd flwyddyn yn olynol. Yng Nghymru, gwelwyd bod y canran o blant sydd wedi derbyn yr holl imiwneiddio rheolaidd gofynnol (y pigiad atgyfnerthu cyn-ysgol ‘4 mewn 1’, y pigiad atgyfnerthu Hib/MenC a’r ail ddos MMR) erbyn iddynt fod yn 4 oed yn cael ei effeithio gan yr Ardal Gynnyrch Ehangach Haen Is lle maen nhw’n byw.

Graph showing completion of routine immunisations by 4 years old in different Lower Super Output Areas of Wales - between 01/04/2019 and 31/03/2020, this has always been lower in the most deprived areas. Cliciwch yma i edrych yn agosach

Cymerwyd y ddelwedd o: ‘Vaccine Uptake in Children in Wales’ Adroddiad Blynyddol COVER 2020.

Disgrifiad o’r graff: Mae’r graff hwn yn dangos bod y canran o blant sydd wedi cwblhau eu himiwneiddio rheolaidd erbyn 4 oed ar ei isaf yn ardaloedd mwyaf difreintiedig Cymru, ar draws yr holl Fyrddau Iechyd Prifysgol, rhwng Ebrill 2019 a Mawrth 2020.

Ymhellach, gwelwyd yr un rhywogaeth o’r firws brech goch (o’r enw B3 Dublin) am fwy na 12 mis drwy 2017 a 2018. Ar sail hynny, penderfynodd Sefydliad Iechyd y Byd na allai’r DU gael ei hystyried bellach yn wlad oedd wedi “gwaredu”’r firws a bod trosglwyddiad y frech goch wedi ail sefydlu.

Darllenwch flog Public Health Matters ar Y Frech Goch yn Lloegr os hoffech ragor o wybodaeth am yr astudiaeth achos hon.

Os hoffech ddysgu rhagor am frechiadau, gallwch ymuno â chwrs Futurelearn BSAC sy’n ymchwilio rôl brechlynnau mewn atal clefydau heintus ac ymwrthedd gwrthficrobaidd.

A oes unrhyw gamsyniadau cyffredin am frechiadau y dewch chi ar eu traws yn eich lleoliad chi?

Gadewch i ni wybod am eich profiadau yn y sylwadau isod.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now