Skip main navigation

New offer! Get 30% off one whole year of Unlimited learning. Subscribe for just £249.99 £174.99. New subscribers only. T&Cs apply

Find out more

Y Cefndir: Beth allwn ni ei wneud i ofalu amdanom ein hunain?

Article discussing how long some common illnesses last, effective ways to treat at home, and links to external resources.

Dolen ar gyfer y gweithgaredd: sefyllfaoedd yn ymwneud â gwrthfiotigau.

Mae gan bob un ohonom ran i’w chwarae o ran helpu i leihau heintiau. Rhan o hyn yw gwybod sut y gallwn atal heintiau a gofalu amdanom ein hunain pan fyddwn yn sâl.

Mae hyn yn cynnwys mesurau a gafodd sylw yn wythnosau un a dau fel golchi’r dwylo a gwybod sut i baratoi a storio bwyd yn ddiogel.

Gallwn drin yr heintiau mwyaf cyffredin gartref drwy orffwyso, bwyta’n iach ac yfed digonedd o hylif i osgoi dadhydriad. Mae’r tabl isod yn rhoi gwybodaeth ynglŷn â pha mor hir mae rhai pyliau o salwch cyffredin yn para.

Table with info on how long common illnesses last - Norovirus 2-3 days, sore throat 7-8 days, middle-ear infection 8 days, common cold 14 days, sinusitis 18 days, cough or bronchitis 21 days.

Cliciwch yma i edrych yn agosach

Sut i’ch trin eich hun ar gyfer yr heintiau hyn, nawr a’r tro nesaf:

  • Cymerwch ddigonedd o orffwys.
  • Yfwch ddigonedd o hylifau er mwyn osgoi teimlo’n sychedig.
  • Gofynnwch i’ch fferyllydd lleol argymell meddyginiaethau i helpu eich symptomau neu boen (neu’r ddau).
  • Mae twymyn yn arwydd bod y corff yn brwydro’r haint a bydd yn gwella ar ei ben ei hun yn y mwyafrif o achosion. Gallwch ddefnyddio parasetamol neu ibuprofen os ydych chi neu eich plentyn yn anghyfforddus oherwydd twymyn.
  • Defnyddiwch hances bapur a golchwch eich dwylo’n dda er mwyn helpu i atal ymlediad eich haint i’ch teulu, ffrindiau a phobl eraill yr ydych yn eu cyfarfod.
  • Dylech weld clinigwr os bydd eich symptomau’n mynd yn waeth neu mae’r salwch wedi para’n hirach na’r disgwyl.

Mae hon, Taflen Haint y Llwybr Anadlu, yn ganllaw gyda lluniau sy’n rhoi gwybodaeth am hunanofal i wneud pobl yn fwy gwybodus ac i newid eu hymddygiad mewn perthynas â defnyddio gwrthfiotigau. Gall clinigwyr a fferyllwyr yn y DU ddefnyddio gwahanol ffurfiau o’r daflen hon i’w helpu yn ystod ymgynghoriad â chleifion. Gallai fod yn ddefnyddiol hefyd os ydych yn trafod hunanofal gyda phlant hŷn neu roddwyr gofal.

Mae gan y daflen hon wybodaeth ynglŷn â pha mor hir y dylai heintiau cyffredin bara, symptomau difrifol fyddai angen sylw meddygol ar frys a lle i fynd am gymorth, gan gynnwys rhifau ffôn pwysig.

Mae manylion am ragor o daflenni defnyddiol yn yr adran ‘gwelwch hefyd’ isod.

Ydy’r plant yn eich gwlad chi’n tueddu i fynd i’r ysgol pan maen nhw’n sâl?

Gadewch i ni wybod am eich profiadau yn y sylwadau isod.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now