Skip main navigation

New offer! Get 30% off one whole year of Unlimited learning. Subscribe for just £249.99 £174.99. New subscribers only. T&Cs apply

Find out more

Y cefndir: Defnyddio gwrthfiotigau’n gyfrifol

Article discussing how to use antibiotics responsibly, with an external video and link to becoming an Antibiotic Guardian.

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: sefyllfaoedd yn ymwneud â gwrthfiotigau.

Mae cymryd gwrthfiotigau os nad ydych eu hangen yn eich rhoi chi a’ch teulu mewn perygl. Er mwyn helpu i gadw gwrthfiotigau’n gweithio byddem yn eich annog bob amser i gymryd cyngor eich meddyg neu nyrs am wrthfiotigau.

Cofiwch fod:

  • Gwrthfiotigau’n arbed bywydau os oes gan bobl heintiau bacteriol; ond mae’r heintiau mwyaf cyffredin yn firaol ac ni fyddent yn gwella gyda gwrthfiotigau.
  • Mae bacteria sy’n gwrthsefyll gwrthfiotigau’n gallu aros yn y corff am amser hir (blynyddoedd weithiau) ar ôl cymryd gwrthfiotigau.
  • Mae’r sgil effeithiau cyffredin wrth gymryd gwrthfiotigau’n cynnwys y llindag, brechau, chwydu a dolur rhydd – siaradwch â’ch clinigwr os ydych chi’n poeni am hyn.
  • Cadwch wrthfiotigau’n gweithio; cymerwch nhw dim ond pan fydd person proffesiynol ym maes iechyd wedi’ch cynghori i wneud hynny, a chymerwch nhw yn union fel mae’r presgripsiwn yn ei nodi, hyd yn oed os byddwch yn dechrau teimlo’n well cyn i chi orffen y cwrs. Trwy wneud hynny, maen nhw’n fwy tebygol o weithio os gewch chi haint arall yn y dyfodol.

Mae’n bwysig eich bod chi’n defnyddio gwrthfiotigau fel y mae’r clinigwr wedi’i nodi ar y presgripsiwn, am fod gwrthfiotigau penodol i bob haint, ac mae’r dos yn benodol i bob claf. Mae hyn yn golygu y dylem:

  • Beidio rhannu gwrthfiotigau gyda chyfeillion neu deulu.
  • Beidio prynu gwrthfiotigau ar-lein neu dros y cownter, er bod modd prynu gwrthfiotigau heb bresgripsiwn mewn rhai gwledydd.
  • Cymerwch wrthfiotigau yn union fel mae’r presgripsiwn yn ei nodi bob amser, am y nifer o ddiwrnodau a nodir ac ar yr amseroedd cywir, e.e. tair gwaith y dydd am saith diwrnod.
  • Dychwelwch unrhyw wrthfiotigau sy’n weddill i fferyllfa, yna gallent hwy gael gwared â nhw yn unol â phrotocolau’r fferyllfa.

Yn y fideo isod, mae Dr Chris van Tulleken, Meddyg Clefydau Heintus yn esbonio sut y gallwch ddod yn Ofalwr Gwrthfiotigau a helpu i amddiffyn y meddyginaethau hanfodol hyn rhag mynd yn ddarfodedig.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Mae crynodeb PDF o’r fideo yn yr adran lawrlwytho isod.

A fyddwch chi’n Ofalwr Gwrthfiotigau?

Os hoffech ddod yn Ofalwr Gwrthfiotigau, cymerwch ychydig funudau i ddewis addewid syml am y ffordd y gallwch CHI wneud gwell defnydd o wrthfiotigau i’w cadw nhw’n gweithio ar adeg pan fyddwch chi eu hangen nhw go iawn.

Rhannwch eich addewid yn y sylwadau isod os gwelwch yn dda ac mae croeso i chi drafod gyda dysgwyr eraill.

Ym mis Mawrth 2020, lansiodd e-Byg y Pecyn Gweithgareddau i Arweinwyr a Gwirfoddolwyr ar gyfer Bathodyn Ieuenctid y Gofalwr Gwrthfiotigau. Mae’r adnodd newydd hwn yn crynhoi rhai o’r gweithgareddau e-Byg allweddol ar gyfer pobl sy’n cefnogi addysg yn y cartref neu’n gweithio gyda grwpiau bach o blant.

Darllen pellach ac astudiaethau achos

Mae’r wefan Gofalwyr Gwrthfiotegau’n cynnig nifer o Straeon Cleifion a fideos sy’n dangos sut mae gwrthfiotigau wedi helpu unigolion.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now