Skip main navigation

Y Cefndir: Sut i atal dirywiad bwyd a salwch a gludir gan fwyd

Article discussing what foodborne illness and food spoilage are and the effective steps to avoid them.
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: fideo canfod y camgymeriadau, trefnu bwyd, a pa mor lân yw eich cegin.

Ystyr ‘dirywiad bwyd’ yw dirywiad yn lliw, teimlad a blas bwyd. Mae nifer o bethau’n gallu achosi hyn, gan gynnwys microbau.

Mae rhai microbau sy’n achosi salwch a gludir gan fwyd yn gallu achosi dirywiad bwyd, dydy eraill ddim. Nid yw bacteria Salmonela yn newid golwg, arogl na blas bwyd sydd wedi ei halogi.

Mae pedair prif ffordd y gallwch atal gwenwyn bwyd a dirywiad bwyd (i gofio’r rhain gallwn ddefnyddio’r acronym COGA):

  • Coginio’r bwyd – fel arfer, dylech goginio bwyd nes bydd yn cyrraedd 70°C ac yn aros ar y tymheredd hwnnw am 2 funud. Y cyngor cyffredinol yw y dylai cig gwyn/briwgig fod yn eithriadol boeth ac wedi ei goginio yr holl ffordd drwyddo (y suddion yn dod allan yn glir). Gallwch weld cyngor manylach am fwydydd gwahanol ar wefan yr Asiantaeth Safonau Bwyd.
  • Oeri – dylech storio bwyd yn gywir, gan gynnwys ei oeri’n gyflym i atal microbau rhag lluosogi. Dylid cadw oergelloedd ar dymheredd o ≤4°C.
  • Glanhau – gan gynnwys ‘glanhau wrth i chi fynd’ pan fyddwch yn paratoi bwyd er mwyn osgoi creu annibendod ac er mwyn atal bacteria rhag ymledu.
  • Atal croeshalogi – dylech atal microbau niweidiol sydd i’w cael ar fwyd rhag ymledu i fwydydd eraill (er enghraifft drwy gyfrwng eich dwylo neu ar offer cegin) ac achosi salwch pan fyddwch chi’n bwyta’r bwydydd hynny.

Un o’r adegau pwysig i ystyried hylendid yw wrth drin a pharatoi bwydydd amrwd, yn enwedig dofednod.

  • Wrth baratoi dofednod amrwd i’w coginio, gall microbau niweidiol ledaenu i’r bwrdd torri, ac arwynebau’r gegin, i’r offer coginio, y dwylo a dillad.
  • Yn syth ar ôl paratoi’r bwyd, rhaid i arwynebau gael eu glanhau a’u diheintio a rhaid golchi a rinsio’r offer cegin.
  • Rhaid i gadachau glanhau gael eu rinsio mewn glanedydd a dŵr sy’n rhedeg, ac yna eu sychu; rhaid golchi eich dwylo gyda sebon a dŵr.
  • Cofiwch na ddylech chi olchi cyw iâr amrwd nag unrhyw gigoedd amrwd eraill cyn eu coginio oherwydd gall hyn sblasio microbau ar arwynebau neu fwydydd eraill a chynyddu’r risg o salwch a gludir gan fwyd.
Wyddoch chi? Mae’n well cadw wyau yn yr oergell oherwydd maen nhw’n para’n hirach; gall hyn atal twf Salmonela.
Dylech storio bwyd yn yr oergell yn y ffordd gywir i osgoi croeshalogiad. Mae’r llun isod yn rhoi gwybodaeth i chi ynglŷn â lle y dylech storio gwahanol fathau o fwyd.
Cymerwyd y ddelwedd o’r pecyn e-Byg “Trechu’r Bygiau” pack.
Mae ailgynhesu eich bwyd fwy nag unwaith yn rhoi cyfleoedd niferus i ficrobau niweidiol dyfu.
  • Mae bacteria yn tyfu orau yn y “parth peryglus” o ran tymheredd (rhwng 5°C a 60° C). Bydd y bwyd ar y tymheredd hwn bob tro y bydd yn oeri ac yn cynhesu, felly mae’n bwysig mai dim ond unwaith y bydd bwyd yn cael ei ail gynhesu.
  • Gall rhai bacteria gynhyrchu tocsinau a sborau. Dyma’r darnau o’r microb sy’n gallu goroesi tymereddau coginio a’n gwneud ni’n sâl.
Awgrym gorau – Wrth ail gynhesu bwyd, ail gynheswch y darn yr ydych am ei fwyta yn unig a chadw’r gweddill yn yr oergell.
Defnyddir labeli ar fwydydd i benderfynu pryd mae’n ddiogel i ni fwyta’r bwyd, neu pryd y bydd ansawdd y bwyd ar ei orau.
  • Mae’r label “defnyddiwch erbyn” yn dweud wrthych pryd mae’r bwyd yn dal i fod yn ddiogel i’w fwyta. Ddylech chi ddim bwyta’r bwyd ar ôl y dyddiad hwn.
  • Mae’r label “ar ei orau cyn” yn dweud wrthych pryd y bydd y bwyd o’r safon orau, ond mae hi werth nodi y gallwch chi fwyta’r bwyd yn ddiogel ar ôl y dyddiad hwn.
Mae’r cyhoedd yn ansicr yn aml iawn ynglŷn ag ystyr y dyddiadau “defnyddiwch erbyn” ac “ar ei orau cyn”. Gwyliwch y fideo hwn gan FSS (Safonau Bwyd yr Alban) i ganfod rhagor.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Gallwch weld crynodeb PDF o’r fideo yn yr adran lawrlwytho isod.
Wyddoch chi? Dywedodd Ben Elliot, hyrwyddwr gostwng gwastraff bwyd i Lywodraeth y DU, bod gwerth £20 biliwn o fwyd yn mynd i’r bin bob blwyddyn, sef cyfartaledd o £500 i bob cartref bob blwyddyn.

Adnoddau addas i blant am hylendid bwyd

Mae e-Byg, mewn cydweithrediad â’r orsaf radio boblogaidd i blant Fun Kids, wedi datblygu penodau sain wedi animeiddio ar hylendid a heintiau. Mae Pennod 6 ar “Edrych ar dy ôl dy Hun” yn esbonio bod cyw iâr wedi’i orchuddio â Campylobacter ac yn gallu ymledu salwch a gludir gan fwyd yn ystod y broses o baratoi bwyd:

This is an additional video, hosted on YouTube.

Mae hwn ar gael hefyd fel podlediad.

Gwelwch y dolenni isod yn yr adran ‘gwelwch hefyd’ i gael rhagor o adnoddau addas i blant.

Wnewch chi ddefnyddio unrhyw rai o’r adnoddau ychwanegol hyn yn eich lleoliad chi? A oes unrhyw adnoddau pellach a fyddai’n ddefnyddiol i chi?

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now