Skip main navigation

New offer! Get 30% off one whole year of Unlimited learning. Subscribe for just £249.99 £174.99. New subscribers only. T&Cs apply

Find out more

Gweithgareddau Cwrdd â’r Bygiau

Examples of two activities which can be used with groups to explain the different types of microbes.
© BSAC & PHE
Datblygwyd e-Byg i’w ddefnyddio mewn ysgolion cyn COVID-19 felly efallai y bydd angen i chi addasu rhai o’r gweithgareddau ar sail canllawiau cadw pellter eich ysgol. Barnwch chithau a dywedwch wrthym sut rydych chi wedi addasu’r gweithgareddau, neu os hoffech drafod syniadau cysylltwch ag Healthy.schools@wales.nhs.uk neu Ysgolion.Iach@cymru.nhs.uk


Gwneud eich microbau eich hun (10-15 munud)

Yn addas i Gyfnodau Allweddol 1 a 2.

Yn y gweithgaredd hwn bydd y cyfranogwyr yn dod â microbau’n fyw gan ddefnyddio toes chwarae. Byddent yn defnyddio lluniau o wahanol ficrobau, gan gynnwys bacteria, firysau a ffyngau, i greu microb gan ddefnyddio darnau o does lliw.

Gallwch weld crynodeb o’r cyfarwyddiadau i grwpiau ysgol a grwpiau cymunedol yn y fan yma. Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Examples of what the modelling clay microbes could look like


Rasys Burum (30 munud)

Yn addas i Gyfnod Allweddol 2 a grwpiau cymunedol.

Mae’r gweithgaredd hwn yn tynnu sylw at ficrobau defnyddiol a ddefnyddiwn yn y diwydiant bwyd. Mae’n cynnwys defnyddio burum, sy’n ffwng, i esbonio sut mae toes bara yn codi drwy’r broses o eplesiad.

Mae crynodeb o’r cyfarwyddiadau i ysgolion ac i grwpiau cymunedol i’w cael yma. Byddwch yn gweld dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

summary of instructions for yeast races activity


Os ydych chi’n cefnogi dysgu yn y cartref neu’n gweithio gyda grwpiau bach o blant, mae gennym weithgareddau ychwanegol am ficrobau a gwasgariad heintiau yn ein Pecyn Gweithgareddau i Arweinwyr a Gwirfoddolwyr ar gyfer Bathodyn Ieuenctid y Gofalwr Gwrthfiotigau. Cliciwch yma i agor yr adnodd hwn.


Ydych chi wedi gwneud unrhyw weithgareddau sy’n debyg i’r rhain?

Gadewch i ni wybod am eich profiadau yn y sylwadau isod.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now