Skip main navigation

Y Cefndir: Hylendid resbiradol

Article discussing why we sneeze, what to do when we sneeze, and some important points to remember.
cartoon image of lungs
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: hylendid resbiradol a dwylo difrifol.

Mae’n bwysig bod plant yn dysgu hylendid resbiradol da o oedran ifanc, a’u bod yn derbyn negeseuon allweddol yn raddol dros amser. Mae hyn yn arbennig o bwysig wrth ddynesu at dymor ffliw’r gaeaf bob blwyddyn, wrth i’r cyfraddau heintiau gynyddu gan arwain at absenoldebau o’r ysgol a’r gwaith.

  • Mae symptomau annwyd yn cynnwys cur pen, dolur gwddf a thwymyn, ac weithiau drwyn yn diferu neu drwyn caeedig. Mae llawer o ddoluriau gwddf annwyd yn cael eu hachosi gan y firysau yn y gwddf yn gwneud iddo deimlo’n boenus. Mae’r ffliw’n gallu gwneud i’r cyhyrau deimlo’n ddolurus a gwneud i bobl deimlo’n flinedig iawn.
  • Mae anwydau’n gallu pasio o un person i’r llall drwy’r aer, drwy gysylltiad un person â’r llall (dwylo!) neu drwy gyffwrdd arwynebau wedi’u halogi. Gall y firws ledaenu drwy fynd i mewn i drwyn neu lygaid y person sydd heb ei heintio wrth iddyn nhw gyffwrdd eu hwyneb gyda’r firws ar eu dwylo.
  • Gallwn atal y mathau cyffredin o ffliw drwy gael brechlyn ffliw bob blwyddyn. Gwelwch y ffeithlun ECDC hwn sy’n esbonio pam mae angen brechlyn ffliw gwahanol bob blwyddyn.
  • Ffordd arall o atal annwyd a ffliw rhag lledaenu yw defnyddio arferion hylendid resbiradol da pan fyddwn yn pesychu neu’n tisian.

Pam ydyn ni’n tisian?

  • Tisiad yw ffordd y cyrff o geisio cael gwared ag unrhyw ficrobau niweidiol a llwch y byddwn efallai’n eu hanadlu i mewn.
  • Mae’r microbau niweidiol a’r llwch yn cael eu dal ym mlew ein trwynau ac yn cosi ein trwynau. Mae’r trwyn yn anfon neges i’r ymennydd sydd wedyn yn anfon neges yn ôl i’r trwyn, y geg, yr ysgyfaint a’r frest gan ddweud wrthyn nhw am chwythu’r cosi i ffwrdd, neu disian.
  • Pan fydd gennych annwyd neu ffliw, mae miliynau o ronynnau firws yn rhuthro allan, yn gwasgaru drwy’r aer ac yn halogi’r wyneb y maen nhw’n glanio arno; efallai ein bwyd, arwynebau neu ddwylo.
Oeddech chi’n gwybod? Mae tisiad yn gallu teithio 100 milltir yr awr drwy’r aer a lledaenu firws annwyd/ffliw fwy nag 20 troedfedd i ffwrdd oddi wrth y person heintiedig.

Person sneezing Credyd am y ffoto: James Gathany CDC (y Llyfrgell Delweddau Iechyd Cyhoeddus)

Gallwch atal lledaeniad microbau niweidiol o beswch neu disiad drwy:

  • Orchuddio eich ceg a’ch trwyn gyda hances bapur a rhoi’r hances yn y bin ar unwaith, er mwyn osgoi lledaenu’r haint i arwynebau, neu i bobl eraill.
  • Os nad oes gennych hances bapur, gorchuddiwch eich ceg a’ch trwyn gyda hanner uchaf eich llawes neu’ch penelin (nid eich dwylo).
  • Olchi eich dwylo’n dda gyda sebon a dŵr, neu hylif diheintio’r dwylo os nad oes sebon a dŵr ar gael.

Ydy’r plant yr ydych yn treulio amser â nhw’n gorchuddio eu cegau pan maen nhw’n pesychu neu’n tisian, neu ydy hynny’n rhywbeth y mae’n rhaid i chi ei ddysgu iddynt?

Gadewch i ni wybod am eich profiadau yn y sylwadau isod.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now