Skip main navigation

Salwch a gludir gan fwyd (Gwenwyn bwyd)

Good food hygiene and safety practices are an important means to reduce the spread of dangerous microbes.
cartoon image of plate and cutlery with microbes

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: fideo canfod y camgymeriadau, trefnu bwyd, a pa mor lân yw eich cegin.

Yn ôl Sefydliad Iechyd y Byd, mae salwch a gludir gan fwyd yn “salwch sydd fel arfer yn heintus neu’n wenwynig ei natur ac sydd wedi ei achosi gan facteria, firysau, parasitiaid neu sylweddau cemegol yn mynd i mewn i’r corff drwy fwyd neu ddŵr halogedig”. Mae’r mathau hyn o salwch yn effeithio ar oddeutu 23 miliwn o bobl drwy’r byd i gyd bob blwyddyn.

Yn y DU bob blwyddyn mae mwy na 500,000 o achosion o salwch a gludir gan fwyd sydd wedi eu hachosi gan ficrobau adnabyddedig. Mae’r rhan fwyaf o’r anhwylderau hyn yn y DU wedi eu hachosi gan ddofednod, ffrwythau a llysiau a bwyd môr halogedig.

Table showing the top foodborne illnesses in the UK in 2009 (Campylobacter, Clostridium perfringens, norovirus, and salmonella), common sources that causes these illnesses, and the approximate number of cases and GP visits relating to these.

Mae symptomau salwch a gludir gan fwyd yn cychwyn fel arfer o fewn ychydig o ddiwrnodau o fwyta’r bwyd a achosodd yr haint. Maen nhw fel arfer yn well o fewn wythnos a gallent gynnwys poenau stumog, dolur rhydd, chwydu, cyfog, blinder cyffredinol/poenau/oerfel a thwymyn. Ni fydd pawb yn cael y symptomau hyn, ond gallent gael eu trin gartref fel arfer.

Cliciwch yma i ddarllen cyngor y Gwasanaeth Iechyd Gwladol (GIG) ar reoli’r symptomau hyn ac o le i gael cymorth gan weithiwr proffesiynol gofal iechyd.

Bydd addysgu ac atgoffa plant o oedran ifanc i ddefnyddio’r prif arferion hylendid bwyd a hylendid y dwylo yn helpu i ostwng achosion ataliadwy o salwch a gludir gan fwyd.

Mae plant a phobl ifanc yn dysgu rheolau hylendid bwyd yn gyntaf yn y cartref gan eu rhieni, ac yn aml iawn maen nhw’n chwarae rôl wrth siopa, cario eitemau bwyd, storio bwyd, paratoi bwyd ac ailgynhesu bwydydd, ac wrth helpu i goginio i deulu a chyfeillion.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now