Skip main navigation

Gweithgareddau Bygiau Bwyd

Three examples of activities to teach groups about food bugs and hygiene.

Datblygwyd e-Byg i’w ddefnyddio mewn ysgolion cyn COVID-19 felly efallai y bydd angen i chi addasu rhai o’r gweithgareddau ar sail canllawiau cadw pellter eich ysgol. Barnwch chithau a dywedwch wrthym sut rydych chi wedi addasu’r gweithgareddau, neu os hoffech drafod syniadau cysylltwch ag Healthy.schools@wales.nhs.uk neu Ysgolion.Iach@cymru.nhs.uk

Fideo Canfod y Camgymeriadau (10-20 munud)

Mae’r fideo uchod yn fideo newydd sy’n gadael i addysgwyr chwarae clip byr o gogydd yn gwneud pryd o gyw iâr wedi tro-ffrïo.

Mae angen i’r myfyrwyr chwilio am gamgymeriadau hylendid bwyd. Trwy deilwra’r drafodaeth i’r grŵp oedran cywir bydd y myfyrwyr yn dysgu am bethau sy’n ymwneud yn arbennig â hylendid bwyd a bydd yn cysylltu â’r cwricwlwm cenedlaethol.

  • Bydd myfyrwyr iau yn trafod y rheolau hylendid bwyd a dorrwyd a sut y gallai hynny eu gwneud nhw neu bobl eraill yn sâl.
  • Bydd myfyrwyr 11-14 oed (CA3) yn dechrau grwpio’r camgymeriadau’n ddau gategori:
    • Camgymeriadau hylendid bwyd mewn perthynas â diogelwch y person sy’n paratoi’r bwyd.
    • Camgymeriadau hylendid bwyd mewn perthynas â diogelwch y cwsmer, neu pwy bynnag fydd yn blasu’r cynnyrch.
  • Bydd myfyrwyr hŷn 15-18 oed (CA4) yn canolbwyntio ar gynnwys o’r HACCP (Dadansoddi Peryglon a Phwynt Rheoli Critigol) yn eu trafodaeth.

Ar ôl y drafodaeth, bydd y myfyrwyr yn gwylio yr un sefyllfa heb unrhyw gamgymeriadau i atgyfnerthu’r arferion hylendid da.

Yn y fan yma mae taflen drafodaeth i’w defnyddio gydag ysgolion a grwpiau cymunedol. Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Trefnu bwyd (10-20 munud)

Yn addas i CA2 a grwpiau cymunedol

Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu cyfranogwyr i weld bod microbau’n gallu bod yn ddefnyddiol neu’n niweidiol. Mae gofyn i gyfranogwyr drefnu gwahanol fwydydd i ddangos a ydyn nhw’n cynnwys/wedi eu gwneud gyda microbau defnyddiol, neu’n cynnwys microbau niweidiol/sy’n dirywio bwyd.

Yn y fan yma mae crynodeb o’r cyfarwyddiadau ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol. Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Pa mor lân yw eich cegin? (10-20 munud)

Yn addas i Gyfnodau Allweddol 1 a 2 a grwpiau cymunedol

Mae hwn yn ddangosiad neu arbrawf ymarferol y gallwch ei ddefnyddio i addysgu am groeshalogiad, y parth peryglus, hylendid bwyd a diogelwch bwyd, yn ogystal â hylendid offer a hylendid y dwylo. Mae’r cyfranogwyr yn gwneud brechdan cyw iâr gan ddefnyddio cyw iâr, bara a salad oll wedi eu gwneud o does chwarae, ynghyd â phopty tegan. Defnyddir gel UV a thortsh i ddangos croeshalogiad a sut mae microbau wedi ymledu o amgylch y gegin.

Yn y fan yma mae crynodeb o’r cyfarwyddiadau ar gyfer ysgolion a grwpiau cymunedol. Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Os ydych yn cefnogi addysgu yn y cartref neu’n gweithio gyda grwpiau bach o blant, mae gennym weithgareddau ychwanegol ar hylendid bwyd yn ein Pecyn Gweithgareddau i Arweinwyr a Gwirfoddolwyr ar gyfer Bathodyn Ieuenctid y Gofalwr Gwrthfiotigau. Cliciwch yma i ddefnyddio’r adnodd hwn.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw weithgareddau sy’n debyg i’r rhain?

Gadewch i ni wybod am eich profiadau yn y sylwadau isod.

This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now