Skip main navigation

Y cefndir: Lleihau pydredd dannedd

Article discussing how we can take steps to limit tooth decay, and links to additional resources.
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: hylendid iach y geg a diet iach: faint o siwgr sydd yn eich diodydd.

Gallwn atal pydredd dannedd drwy gyfyngu ar y nifer o weithiau rydym yn cael bwyd a diod gyda siwgr ynddynt, gan gynnwys te a choffi, a brwsio’n dannedd ddwywaith y dydd gyda phâst dannedd fflworid.

Mae’n bwysig nodi bod pydredd dannedd yn gysylltiedig â pha mor aml mae gennych siwgr yn eich ceg, nid cyfanswm y siwgr a gymerwch chi. Mae cymryd siwgr mewn meintiau bach ac yn aml, er enghraifft drwy yfed nifer o gwpanau te gyda siwgr ynddynt yn ystod y dydd, yn golygu bod ein dannedd yn cael eu boddi mewn siwgr drwy’r dydd. Mae hyn yn rhoi mwy o gyfle i facteria plac ddefnyddio’r siwgr yn y geg i wneud asid, gan arwain yn y pen draw at dyllau yn y dannedd.

Gallwn gyfyngu ar fwydydd a diodydd llawn siwgr drwy eu cael dim ond yn hefo prydau bwyd, fel nad yw ein dannedd yn dioddef “ymosodiadau” fwy nag ychydig o weithiau bob dydd ac fel bod ein dannedd wedi eu diogelu rhag siwgr yn amlach nag y maen nhw “o dan ymosodiad”.

Infographic showing top 3 ways to limit tooth decay - reducing consumption of sugary food and drinks, brush teeth twice daily, and take child to dentist when first tooth erupts, then at 6 months, then on regular basis.

Cymerwyd y ddelwedd o “Health Matters” Public Health England.

Wrth siarad â phlant a phobl ifanc, anogwch nhw i osod pethau o gwmpas i’w hatgoffa i gynnwys glanhau eu dannedd yn eu harferion hylendid yn y bore a’r nos. Gallwch wneud hyn drwy eu hannog nhw i gadw eu brwsh dannedd a’u pâst dannedd yn y golwg i’w hatgoffa i frwsio.

Wyddoch chi? Mae nodweddion mewn poer sy’n ein diogelu ni. Am ein bod ni’n cynhyrchu llai o boer yn y nos, mae’n bwysig osgoi siwgr gyda’r nos a glanhau ein dannedd gyda phâst dannedd fflworid yn union cyn mynd i’r gwely.

Mae dŵr ynghyd â’r fflworid sydd yn ein pâst dannedd yn gallu helpu i gryfhau ein dannedd ac atal pydredd dannedd. Wrth lanhau’r dannedd, cofiwch boeri nid rinsio; mae hyn yn sicrhau bod haen o fflworid yn aros ar eich dannedd ac yn gallu parhau i ddiogelu’r enamel rhag asid.

Unwaith y bydd eu dannedd cyntaf yn ymddangos, dylai plant ddechrau gweld y deintydd yn rheolaidd ac ymweld mor aml ag y mae’r deintydd yn ei argymell, sydd fel arfer bob 3 i 12 mis. Gall hyn atgyfnerthu arferion gofal iach y geg a sicrhau bod unrhyw bydredd dannedd yn cael ei ganfod yn fuan. Mae gofal deintyddol y GIG yn rhad ac am ddim i blant a merched beichiog yn y DU.

Mae hawl gan ferched hefyd gael gofal deintyddol yn rhad ac am ddim pan maen nhw’n feichiog ac hyd nes bydd eu plentyn yn 1 oed. Mae deintyddion yn defnyddio farnais i ddiogelu dannedd plant 3 i 15 oed.

Mae rhagor o ddeunydd i’w ddarllen am hylendid y geg yn yr adran ‘gwelwch hefyd’ isod, yn ogystal ag adnoddau addysgu ac adnoddau sy’n addas i blant.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now