Skip main navigation

Y cefndir: Beth yw’r system imiwnedd?

Article providing a basic introduction to what the immune system is, and link to a video resource.
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: stribed comig, fideos yr Athro Helics, a gweithgaredd brechiadau.

Imiwnedd yw gallu’r corff i’w amddiffyn ei hun rhag heintiau. Mae ein cyrff yn eithriadol o effeithlon am ein cadw ni’n iach ac mae ganddyn nhw nifer o ddulliau o’n hamddiffyn er mwyn cyfyngu ar yr heintiau sy’n cael eu hachosi gan ficrobau niweidiol.

Gallwn gadw’r microbau niweidiol allan o’n cyrff. Dyma rai esiamplau:

  • Mae’r croen yn atal microbau rhag mynd i mewn i’r corff.
  • Mae gan y trwyn bilen ludiog i ddal y microbau os ydynt yn cael eu hanadlu i mewn.
  • Mae’r dagrau’n cynnwys sylweddau sy’n lladd bacteria.
  • Mae’r stumog yn cynhyrchu asid sy’n gallu lladd nifer o ficrobau.

Cartoon image of body with tears, skin, and gastric acid labelled to show the primary defences in the body

Cymerwyd y ddelwedd o ‘Types of Immunity’.

Mae Celloedd Gwyn y Gwaed amhenodol yn cylchredeg yn y corff ac yn ymosod ar unrhyw beth y mae’n ei ystyried yn estron i’r corff.

  • Enw’r celloedd gwyn hyn yw ffagocytau ac maen nhw’n amhenodol oherwydd maen nhw’n ceisio llyncu a threulio unrhyw gyrff estron drwy broses o’r enw ffagocytosis.
  • Maen nhw hefyd yn sbarduno ymateb llidiog, gan helpu’r celloedd cywir i fynd i’r fan gywir a brwydro’r haint. Gall hyn achosi chwyddo, poen a chochni.

Close up (3D computer) image of a white blood cell

Cymerwyd y ddelwedd o ‘Types of Immunity’.

Gall Celloedd Gwyn y Gwaed penodol dargedu microbau niweidiol o fewn y corff a’u dinistrio nhw.

  • Mae’r celloedd gwyn hyn yn targedu microbau penodol sy’n dod i mewn i’r corff drwy folecwl unigryw ar arwyneb y microbau o’r enw antigen.

  • Pan fydd y celloedd gwyn yn darganfod antigen nad ydyn nhw’n ei nabod maen nhw’n dechrau cynhyrchu gwrthgyrff ac yn ei farcio i’w ddinistrio gan gelloedd gwyn eraill y gwaed.

  • Mae celloedd gwyn y gwaed yn aros yn y gwaed ac yn cynhyrchu gwrthgyrff yn gyflym yn barod i frwydo yn erbyn unrhyw oresgynnydd sydd â’r antigen hwn, os bydd yn dychwelyd. Yn y ffordd yma gall y corff gadw cof o’r clefyd, gan ein gwneud ni’n imiwn i lawer o glefydau yr ydym wedi eu cael yn barod.

Mewn pobl iach, mae amddiffyniad y corff yn gallu atal neu frwydro yn erbyn haint sydd wedi ei achosi gan ficrobau niweidiol (pathogenau neu germau).

Mae pobl broffesiynol ym maes meddygaeth yn gallu awgrymu sut y gallwn helpu i roi hwb i amddiffynfeydd ein cyrff neu, mewn rhai achosion, roi triniaeth ar bresgripsiwn sy’n gweithio i ddinistrio’r microbau’n uniongyrchol, fel gwrthfiotigau.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now