Skip main navigation

Y Cefndir: beth yw ymwrthedd gwrthficrobaidd?

Article discussing what antimicrobials and antibiotics are, and external videos describing how antibiotics work, how AMR arises and spreads.
© BSAC & PHE

Dolenni ar gyfer y gweithgareddau: stribed gomic, ymwrthedd bacterial, ymwybyddiaeth o wrthfiotigau a newid lliw, a phecynnau trafodaeth.

Mae meddyginiaeth gwrthficrobaidd yn gyffuriau sy’n helpu eich cyrff i frwydro haint drwy ladd y microbau sy’n cynnwys bacteria (meddyginiaeth gwrthfiotig), firysau (meddyginiaeth gwrthfiraol) a ffyngau (meddyginiaeth gwrthffyngol). Yn aml iawn maen nhw wedi eu creu o gyfansoddion sy’n dod o facteria a ffyngau eraill sy’n dinistrio neu’n cyfyngu ar dwf microbau penodol.

Text - "Antimicrobials are medicines that help your body fight infection by killing bacteria (antibiotics), fungi (antifungals), and viruses (antivirals).

Mae gwrthfiotigau’n gyffuriau gwrthficrobaidd sy’n targedu bacteria yn unig. Doedden nhw ddim yn cael eu defnyddio rhyw lawer tan yr 1940au pan lwyddodd ymchwilwyr i’w troi nhw’n foddion y gellid eu defnyddio ar raddfa fawr. Am y tro cyntaf, roedd triniaeth effeithiol ar gael ar gyfer rhai o’r heintiau mwyaf difrifol, fel twbercwlosis, syffilis a niwmonia bacteriol.

Dydy gwrthfiotigau ddim yn lladd firysau na ffyngau am fod gan y rhain strwythur gwahanol. Oherwydd hynny, dydy gwrthfiotigau ddim yn gallu trin salwch firaol, fel peswch ac annwyd, neu anhwylderau ffwngaidd, fel tarwden y traed. Mae nifer o wahanol fathau o wrthfiotigau sy’n gweithio ar wahanol fathau o heintiau. Does gan y rhan fwyaf o wrthfiotigau ddim effaith ar y system imiwnedd.

Dyma esiamplau o wrthfiotigau:

  • Amoxicillin
  • Clarithromycin
  • Trimethoprim
  • Tetracycline
  • Ciprofloxacin

Dydy cyffuriau lleddfu poen fel parasetamol, ibuprofen, asbirin a codeine ddim yn wrthfiotigau.

Mae’r fideo isod yn disgrifio sut mae gwrthfiotigau’n gweithio. Gallwch ei ddefnyddio mewn trafodaeth yn y dosbarth i blant hŷn (CA3-4)

This is an additional video, hosted on YouTube.

Ar ôl bod mewn cysylltiad â gwrthfiotigau, gall rhai bacteria ddechrau gwrthsefyll y gwrthfiotigau ac ni allent gael eu lladd yn effeithiol ganddynt mwyach. Mae hyn yn achosi risg difrifol i’r iechyd oherwydd, heb wrthfiotigau da:

  • Efallai y bydd angen gwrthfiotigau mwy tocsig neu driniaeth yn yr ysbyty ar gyfer heintiau cyffredin fel heintiau’r llwybr wrinol.
  • Bydd y mwyafrif o lawdriniaethau, yn cynnwys toriadau Cesaraidd, yn llawer mwy peryglus i’w gwneud am eu bod yn dibynnu ar wrthfiotigau i atal heintiau.
  • Efallai na fydd triniaethau sy’n gwanhau systemau imiwnedd pobl ac yn eu rhoi nhw mewn perygl o heintiau difrifol, fel triniaeth canser, yn ddiogel mwyach.
  • Gall heintiau oedd yn hawdd eu trin ar un adeg, fel twbercwlosis, ddod yn llawer anoddach i’w trin.
Wyddoch chi? Roedd adroddiad yn 2016 yn dangos bod oddeutu 700,000 o bobl yn marw bob blwyddyn drwy’r byd i gyd oherwydd ymwrthedd gwrthficrobaidd (oddeutu 5,000 yn y DU). Os na fyddwn ni’n gweithredu, gallai hyn godi i 10 miliwn y flwyddyn erbyn 2050 ac arwain at gost fyd-eang gronnus o 100 triliwn o ddoleri UDA!

Fideo: Sut mae ymwrthedd i wrthfiotigau’n digwydd

This is an additional video, hosted on YouTube.

Fideo: Ystyriwch wylio’r fideo hwn am y ffordd mae ymwrthedd i wrthfiotigau’n ymledu os hoffech addysgu cynnwys manwl i blant hŷn.

This is an additional video, hosted on YouTube.

Mae crynodeb PDF o’r fideos i’w cael yn yr adran lawrlwytho isod.

I weld fideos tebyg, gallwch weld y casgliad yma. Mae’r fideos hyn yn rhan o gasgliad a luniwyd i helpu plant hŷn (dros 14 oed) i ddeall gwrthfiotigau a brechiadau a gallwch eu defnyddio yn y dosbarth, yn rhan o waith cwrs ac ar gyfer adolygu.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now