Skip main navigation

Gweithgareddau Diogelu yn Trechu’r Bygiau

Three examples of activities to teach groups about self-care, vaccination, and responsible use of antibiotics.
© BSAC & PHE

Datblygwyd e-Byg i’w ddefnyddio mewn ysgolion cyn COVID-19 felly efallai y bydd angen i chi addasu rhai o’r gweithgareddau ar sail canllawiau cadw pellter eich ysgol. Barnwch chithau a dywedwch wrthym sut rydych chi wedi addasu’r gweithgareddau, neu os hoffech drafod syniadau cysylltwch ag Healthy.schools@wales.nhs.uk neu Ysgolion.Iach@cymru.nhs.uk

Mae’r gweithgareddau hyn yn canolbwyntio ar ddysgu grwpiau ysgol ac aelodau’r gymuned am gyrchu gwybodaeth iechyd ar-lein, yn ogystal â rhoi gwybodaeth iddynt am bwysigrwydd brechlynnau i atal heintiau a sut y dylid defnyddio gwrthfiotigau’n gyfrifol.

Cyrchu Gwybodaeth Iechyd Ar-lein (15 munud)

Yn addas i ysgolion a grwpiau cymunedol

Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu cyfranogwyr i fod yn fwy hyderus ynglŷn â chyrchu gwybodaeth iechyd ar-lein a dysgu lle i fynd i gael gwybodaeth ddibynadwy.

Mae crynodeb yn y fan yma o’r cyfarwyddiadau i grwpiau ysgol a grwpiau cymunedol. Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Gweithgaredd brechu (15 munud)

Yn addas i Gyfnod Allweddol 3

Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu cyfranogwyr i ddeall beth yw brechiadau a sut y gallent helpu i atal ymlediad haint i bobl eraill a chyfrannu at imiwnedd. Mae crynodeb yn y fan yma o’r cyfarwyddiadau ar gyfer grwpiau ysgol a grwpiau cymunedol. Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

person being vaccinated

Cymerwyd y ddelwedd o NIAID flickr.

Sefyllfaoedd yn ymwneud â gwrthfiotigau (10-15 munud)

Yn addas i grwpiau ysgol a chymunedol

Bydd y gweithgaredd hwn yn helpu cyfranogwyr i ddeall trafodaethau a allai ddigwydd cyn i ni ddefnyddio neu dderbyn gwrthfiotigau a sut i wneud penderfyniadau deallus am ddefnyddio gwrthfiotigau drwy edrych ar sefyllfa tri o gleifion. Mae’n atgyfnerthu’r negeseuon hyn: peidio cymryd gwrthfiotigau ar gyfer peswch ac annwyd, cymryd gwrthfiotigau fel y nodir ar y presgripsiwn a pheidio defnyddio gwrthfiotigau pobl eraill neu wrthfiotigau a adawyd yn weddill.

Mae crynodeb yn y fan yma o’r cyfarwyddiadau ar gyfer grwpiau ysgol a grwpiau cymunedol. Mae dolen yn yr adran lawrlwytho isod hefyd.

Os ydych chi’n cefnogi dysgu yn y cartref neu’n gweithio gyda grwpiau bach o blant, mae gennym weithgareddau ychwanegol i ddysgu am wrthfiotigau yn ein Pecyn Gweithgareddau i Arweinwyr a Gwirfoddolwyr ar gyfer Bathodyn Ieuenctid y Gofalwr Gwrthfiotigau. Cliciwch yma i agor yr adnodd hwn.

Ydych chi wedi gwneud unrhyw weithgareddau sy’n debyg i’r rhain?

Gadewch i ni wybod am eich profiadau yn y sylwadau isod.

© BSAC & PHE
This article is from the free online

Hyfforddiant e-Byg i Addysgwyr Iechyd

Created by
FutureLearn - Learning For Life

Reach your personal and professional goals

Unlock access to hundreds of expert online courses and degrees from top universities and educators to gain accredited qualifications and professional CV-building certificates.

Join over 18 million learners to launch, switch or build upon your career, all at your own pace, across a wide range of topic areas.

Start Learning now